complianz-gdpr domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /home/hubcymruafrica/public_html/bsstaging.hubcymruafrica.wales/wp-includes/functions.php on line 6170
munwch â ni ar gyfer y sesiwn ar-lein gydweithredol hon sydd yn cael ei chynnal gan Maint Cymru a Hub Cymru Africa, sy’n canolbwyntio ar yr Affricanwyr yn gweithredu ar newid hinsawdd.
Byddwn yn croesawu panel arbenigol o siaradwyr sy’n gwneud gwaith anhygoel yng Nghymru ac Affrica dros gyfiawnder hinsawdd:
O’r Camerŵn yn wreiddiol, mae Dr Chi Fru yn Uwch Ddarlithydd Geomicrobioleg ac yn Ddarllenydd mewn Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n arbenigwr yn y system cefnfor-atmosffer.
Mae Steve Sodzi yn gadeirydd Caendon yn Llandudno ar hyn o bryd, ac yn rheolwr prosiect sy’n cefnogi prosiectau yn Kenya a Ghana, sy’n cefnogi datblygu cynaliadwy a lliniaru tlodi, fel tyfu coffi’n gynaliadwy.
Mae gan Sanab Hersi radd yn y gyfraith, ac mae hi’n actifydd amgylcheddol sydd wedi ailhyfforddi mewn permaddiwylliant (astudiaeth rheoli tir cynaliadwy), ac mae hi wedi sefydlu grŵp garddio lleol yn Grangetown, Caerdydd o’r enw Green Soul Garden. Cenhadaeth y grŵp yw darparu cyfleoedd a chreu mannau diogel i bobl o liw i gymryd rhan mewn mathau o dwf personol.
Mae Ize yn wyddonydd pridd ac amgylcheddol, yn ymchwilydd lliniaru newid hinsawdd, yn addysgwr ac yn eiriolwr iechyd y cyhoedd, a anwyd yn Nigeria. Mae hi’n ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gyd-arweinydd 3rd Sector Support Africa (3SA); Sefydliad Strategaeth, Datblygu a Chymorth sy’n ymroi i ddarparu atebion arloesol a chynaliadwy i chwaraewyr yn y trydydd sector ar draws meysydd thematig. Mae hi’n eiriolwr brwd dros gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae rhywfaint o’i hymchwil wedi canolbwyntio ar archwilio economi maetholion cylchol ar draws y meysydd rheoli gwastraff ac amaethyddiaeth. Mae Ize yn gysylltiedig â NCIC (Nigeria Climate Innovation Centre), yn aelod o NWAS (North Wales Africa Society), ac yn Llysgennad Hinsawdd Cymru.
Bydd y digwyddiad panel ar-lein 75 munud hwn yn mynd â chi ar daith o sut mae undod byd-eang a gweithredu ar yr hinsawdd yn gysylltiedig, ac yn dangos bod gweithredu ar yr hinsawdd i bawb.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi!
Array
(
[output_type] => upcoming
)
Array
(
[post_type] => event
[posts_per_page] => 5
[post_status] => publish
[meta_key] => start
[orderby] => meta_value_num
[order] => ASC
[post__not_in] => Array
(
[0] => 84389
)
)