complianz-gdpr domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /home/hubcymruafrica/public_html/bsstaging.hubcymruafrica.wales/wp-includes/functions.php on line 6170Yn Hyb Cymru Affrica, credwn fod gan bawb yr ydym yn dod i gysylltiad â hwy, waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, beichiogrwydd, ailbennu rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol, yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag pob math o niwed, cam-driniaeth a chamfanteisio.
Yng Nghymru, mae diogelu yn golygu atal ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac addysgu’r rhai o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.
Yn y sector datblygu rhyngwladol, mae’n golygu amddiffyn pobl, yn arbennig menywod, a merched, rhag niwed sy’n codi yn sgil dod i gysylltiad â’n staff neu raglenni.
Yn Hyb Cymru Affrica, rydym yn gweithio i wella safonau diogelu ym mhob agwedd ar ein gwaith, trwy dair elfen – atal, adrodd ac ymateb.
Mae Hub Cymru Africa yn gweithio o dan polisïau SSAP. Cliciwch yma i ddarllen polisi diogelu
Os oes angen i chi wneud adroddiad am ddigwyddiad diogelu yn ymwneud ag aelod o Hub Cymru Africa neu staff SSAP defnyddiwch y broses hon: XXX
Mae Hub Cymru Africa yma i gefnogi partneriaethau Cymru Affrica i gryfhau eu gwaith diogelu, drwy hyfforddiant, cefnogaeth 1:1, ac adnoddau wedi’u curadu. Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar eich arferion diogelu, cysylltwch â ni ar advice@hubcymruafrica.wales.
Gall partneriaid yng Nghymru hefyd gysylltu â WCVA i gael cymorth drwy safeguarding@wcva.cymru a defnyddio’r adnoddau hyn gan WCVA.