complianz-gdpr domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /home/hubcymruafrica/public_html/bsstaging.hubcymruafrica.wales/wp-includes/functions.php on line 6170Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth a ffurfiwyd yn 2015 rhwng Cymru Masnach Deg, Panel Cynghori Affrica Is-Sahara, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Rydym yn gweithio ar draws cymdeithas sifil, ac yn dod ag elusennau, unigolion a sefydliadau at ei gilydd o amgylch ein themâu sefydliadol craidd. Mae gan bob partner ei nodau a'i strategaethau ei hun, ond rydym yn unedig o ran cyflawni undod byd-eang ac yn gweithio gyda'n gilydd ar sawl maes, sy’n cynnwys datblygu cynaliadwy, masnach deg, newid hinsawdd, iechyd, bywoliaethau, cydraddoldebau sy’n cynnwys rhyw, hil a chyfiawnder rhwng cenedlaethau.
Rydym yn meddwl yn annibynnol, ac yn gweithredu gyda phwrpas. Rydym yn cael ein hysgogi gan ein strategaeth, ac yn gweithio gydag eraill i gyflawni gweledigaeth a rennir. Rydym yn wrthrychol ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Rydym yn ymroddedig ac yn benderfynol, ac yn gweithredu dros newid parhaol. Rydym yn cael ein harwain gan y tymor hir, yn cyflawni canlyniadau trwy ddyfalbarhad, ac yn parhau i fod yn hyblyg ac yn addasadwy. Rydym yn annog eraill i feddwl a gweithredu tuag at greu effaith hirdymor.
Rydym yn agored, yn onest ac yn fyfyriol. Mae’r ffordd rydym yn gweithio yn gydweithredol ac yn gyfranogol. Rydyn ni’n croesawu her a chraffu. Rydym yn defnyddio adnoddau’n gyfrifol, ac yn atebol am ein gweithredoedd. Rydym yn myfyrio ar ein perfformiad, yn cofleidio dysgu, ac yn annog ffyrdd newydd o wneud pethau.
Rydym yn ymroddedig i gydraddoldeb a chynwysoldeb. Rydym yn parchu amrywiaeth a gwahaniaeth, ac yn credu y dylai pawb gael yr un hawliau a chyfleoedd.
Rydym yn hyrwyddo persbectif rhyngwladolaidd, ac yn ceisio ymgysylltu ac egluro pam rydym yn gwneud yr hyn a wnawn i’r rhai nad ydynt efallai yn gwerthfawrogi undod byd-eang.
Ein gweledigaeth yw creu Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy'n gweithredu mewn undod â phobl Affrica
Ein cenhadaeth yw bod yn gatalydd dros newid, a chyfrannu at ganlyniadau datblygu byd-eang trwy gefnogi cymuned Cymru ac Affrica.