complianz-gdpr domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /home/hubcymruafrica/public_html/bsstaging.hubcymruafrica.wales/wp-includes/functions.php on line 6170
“Eleni fe ailgyflwynwyd y gwobrau i adlewyrchu’r agweddau pwysicaf ar gymuned Cymru ac Affrica: partneriaeth, cynaliadwyedd a gwirfoddoli. Roedd ansawdd y gwaith a adlewyrchwyd yn y ceisiadau’n rhyfeddol ac yn dangos sut mae'r gwaith wedi esblygu dros ddwy flynedd eithriadol. “Mae pob un o’n henillwyr a’r ymgeiswyr hynny a derbyniodd ganmoliaeth uchel wedi gwneud cymaint i sicrhau bod undod byd-eang rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara yn cael ei weithredu trwy bartneriaeth. “Llongyfarchiadau i'r enillwyr! Mae Hub Cymru Africa yn edrych ymlaen at weld mwy o geisiadau fel hyn y flwyddyn nesaf ar gyfer gwobrau 2023.”Dywedodd enillydd y Wobr Bartneriaeth, Dr Christina Thatcher o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a Godess Bvukutwa o Ganolfan Menywod Mambakwedza, Zimbabwe:
“Rydym wrth ein bodd bod ein partneriaeth ryngwladol wedi cael cydnabyddiaeth trwy’r wobr hon gan Hub Cymru Africa. “Mae gweithio ar y cyd wedi ein galluogi i ail-fframio’r naratif, cynnig cefnogaeth i fenywod ifanc a dysgu oddi wrth ein gilydd. Rydym mor ddiolchgar i gael y cyfle i ddathlu hyn gyda’n gilydd!”Meddai enillydd y Wobr Gynaladwyedd, Sean Lawson o Bees for Development a Dickson Biryomumaisho o TUNADO:
“Rydym wrth ein bodd i dderbyn y Wobr Gynaladwyedd gan Hub Cymru Africa. Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni wrth adeiladu partneriaeth gynaliadwy a theg rhwng Cymru ac Uganda. “Mae derbyn y wobr hon yn cryfhau ein penderfyniad i wneud mwy o waith gwell gyda’n gilydd – gan wella bywydau pobl yn Uganda trwy gadw gwenyn.”Dywedodd Martha Musonza Holman, enillydd y Wobr Gwirfoddolwr Unigol:
“Rwyf mor falch o dderbyn y Wobr Gwirfoddolwr Unigol oherwydd ei fod yn dwyn sylw at bwysigrwydd gwirfoddoli mewn mudiad. "Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd mawr yr wyf yn ei rhannu â’n holl wirfoddolwyr yng Nghymru a Phentref Chinamhora yn Zimbabwe; yn ogystal â'r holl bobl wych hynny sy'n gweithio mewn undod ledled Cymru ac Affrica. “Er gwaethaf yr holl galedi rydyn ni wedi’i wynebu yn ein gwaith partneriaeth, rydyn ni’n dal i ymdrechu a chyflawni pethau gyda’n gilydd. Mae cael eich cydnabod fel hyn yn dod ag ymdeimlad enfawr o lawenydd. Mae hyn yn golygu y gallwn estyn allan yn fwy at sefydliadau o’r un anian ac ennill enw da ac ymddiriedaeth gan gyllidwyr i gefnogi ein gwaith.”DIWEDD
Array
(
[output_type] => latest
)
Array
(
[post_type] => post
[posts_per_page] => 5
[post_status] => publish
[orderby] => post_date
[order] => DESC
[post__not_in] => Array
(
[0] => 61445
)
)