complianz-gdpr domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /home/hubcymruafrica/public_html/bsstaging.hubcymruafrica.wales/wp-includes/functions.php on line 6170
Mae Felana Lantovololona o Madagascar, gwlad y bobl ag enwau hir a’r lemwr. Penderfynodd fynd i Brifysgol Bangor i wneud ei gradd meistr am ei bod o’r farn y byddai dinas hanesyddol, gymharol fach ar arfordir gogleddol Cymru yn caniatáu iddi ganolbwyntio ar ei hastudiaethau, ac roedd chwedloniaeth a hanes Cymru’n ei chyfareddu.
Rwy’n dra ddiolchgar bod Hub Cymru Africa a Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru wedi fy nghynorthwyo i fynychu sawl gweminar yn ymwneud ag ysgrifennu ceisiadau, diogelu a chyfathrebu ymysg eraill.Ar ddechrau’r cyfnod clo ar ddechrau 2020, penderfynodd Felana wirfoddoli er mwyn gwneud defnydd da o’i hamser ac i gael profiad a sgiliau proffesiynol defnyddiol. Cyfyngodd y cyfnod clo’r cyfleoedd gwirfoddoli wyneb yn wyneb i gyd, oedd yn ymddangos yn rhwystr. Dyma’r adeg y cofiodd Felana ei bod wedi mynychu Ffair Fasnach ar ddiwedd mis Tachwedd 2019. Ysbrydolodd y cydweithredu rhwng y Ffair Fasnach a ffermwyr lleol yn Uganda Felana i ganfod mwy am weithgareddau eraill rhwng cymunedau Cymru ac Affrica. Dyma’r hyn â’i hysgogodd i anfon ebost at Hub Cymru Africa, y mae Masnach Deg Cymru yn bartner iddo. Roedd Hub Cymru Africa wedyn yn gallu dod o hyd i leoliad gwirfoddoli i Felana gyda Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru (NWAS), wedi ei leoli yn y ddinas honno.
Roedd dyletswyddau Felana yn rhannol yn cynnwys cynorthwyo NWAS i ysgrifennu ceisiadau am gyllid ac adroddiadau ariannol. Ei phrif rôl, fodd bynnag, oedd helpu i reoli cyfryngau cymdeithasol NWAS a phob dydd, byddai’n neilltuo 30–40 munud i edrych am gyfleoedd sydd yn agored i Affricanwyr yng Nghymru. Wrth i’r dyddiau fynd heibio, canfu ei phwrpas: codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i’r gymuned Ddu yng Ngogledd Cymru. Roedd negeseuon Felana ar y cyfryngau cymdeithasol yn amrywio o gyfleoedd am swyddi neu gynigion am fwrseriaeth i newyddion i godi calon. “Mewn dros 210 o negeseuon, hoffwn feddwl fy mod wedi newid bywyd rhywun a/neu amgyffrediad o’r hyn y gellir ei wneud yng Nghymru.Yr unig beth yr oeddwn eisiau ei wneud oedd dianc rhag y diflastod ond, yn y pen draw, llwyddais i feithrin cyfeillgarwch oes gyda’r Affricaniaid a phobl Cymru fel ei gilydd, sgiliau perthnasol ac atgofion oes yn y lle mwyaf rhyfeddol yn y byd.
Diolch yn fawr Cymru, Diolch yn fawr Hub Cymru Africa, Diolch yn fawr NWAS.
Array
(
[output_type] => latest
)
Array
(
[post_type] => post
[posts_per_page] => 5
[post_status] => publish
[orderby] => post_date
[order] => DESC
[post__not_in] => Array
(
[0] => 4008
)
)