complianz-gdpr domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /home/hubcymruafrica/public_html/bsstaging.hubcymruafrica.wales/wp-includes/functions.php on line 6170
"Mae yna un gwahaniaeth arwyddocaol rhwng ymgysylltiad y Cymry a phobl weddill Prydain Fawr: Mae'r Cymry'n 11% yn fwy tebygol i ymgysylltu mewn tlodi byd-eang drwy ei drafod â ffrindiau, teulu neu bobl eraill." - Paolo Morini, Development Engagement LabMeddai Claire O'Shea, pennaeth Partneriaeth Hub Cymru Africa, “Dengys yr ymchwil yr hyn rydym eisoes yn ei wybod, bod Cymru’n genedl ofalgar a thosturiol. Mae ein gwaith a’n partneriaethau gyda chymuned Cymru ac Affrica yn golygu ein bod yn gweld ac yn cefnogi llawer o sefydliadau ac unigolion anhygoel sy’n integreiddio yn eu cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn”. “Mae llawer o sefydliadau Affricanaidd yn ffynnu yng Nghymru oherwydd eu bod yn cael mynediad a chymorth er mwyn llwyddo, ynghyd â’r penderfyniad i wella llesiant eu cymuned a dod ag Affrica i Gymru”. Un grŵp o’r fath yw Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru wedi’i sefydlu gan Dr Salamatu Fada. Elusen a grŵp aelodaeth ar gyfer cymunedau Affricanaidd a Charibïaidd ar wasgar yn ogystal â chyfeillion Affrica yng ngogledd Cymru ydyw. Dr Salamatu Fada (canol) gyda Maggie Ogunbanwo (chwith) a Glory Williams (de) ar banel sgwrs yn #SummerUndod2022 ym Mangor, Gorffennaf 2022 Gadawodd Salamatu Nigeria ym mis Ionawr 2011 gyda’i phedwar o blant er mwyn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor. Cwblhaodd ei PhD mewn Bioleg Cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor yn 2015 ac ôl-ddoethuriaeth yn 2018. Mae’n teimlo fel ei bod wedi cael croeso yn yr ardal ac wedi cael cymorth gan ei heglwys, ei chymuned ac ysgolion y plant. Mae Salamatu bellach yn gynghorydd yng nghyngor sir Bangor. Meddai Salamatu “Mae Cymru’n lle hyfryd i fyw. Mae pobl Cymru’n groesawgar, yn gyfeillgar ac yn gynnes. Mae fy mhlant a minnau’n ystyried Bangor fel ein cartref ac rydym yn dwlu arno. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn meddwl am roi yn ôl i’r lle wnaeth roi cymaint i mi. Dyma pam y gwnes i sefydlu Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica a dyna pam dwi’n gynghorydd". Mae Hub Cymru Africa yn bwriadu cynnal gweithgareddau ynghylch undod byd-eang gyda Chymru ac Affrica gan gynnwys podlediadau Solidari-Tea, arddangosfa ym Mhafiliwn y Grange a mwy. Cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr er mwyn cael y newyddion diweddaraf. Gallwch weld yr ymchwil lawn yma.
Array
(
[output_type] => latest
)
Array
(
[post_type] => post
[posts_per_page] => 5
[post_status] => publish
[orderby] => post_date
[order] => DESC
[post__not_in] => Array
(
[0] => 64309
)
)