complianz-gdpr domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /home/hubcymruafrica/public_html/bsstaging.hubcymruafrica.wales/wp-includes/functions.php on line 6170
Mae heriau o’r fath yn teimlo’n amhosib tan eu bod wedi gorffen.Cawson ein hymuno gan siaradwragedd gwych yn ein sesiwn am Gyfiawnder Hinsawdd, a rhannodd y rheini eu gwaith a’u profiad o bontio Cymru ac Affrica. [caption id="attachment_63806" align="alignnone" width="600"]
Panel siarad: O'r chwith i'r dde: Claire O'Shea, Clare James, Mari McNeill, Barbara Davies Quy, Beth Kidd; O'r chwith i'r dde ar y sgrîn: Lorna Alum, Deborah Wekesa[/caption]
Ymunodd Lorna Alum o Mount Elgon Tree Growing Enterprise a Deborah Wekesa o Bumaena Tree Nursery Group â ni o Wganda drwy’r we. Gwnaethon nhw ddweud wrthym am y problemau yn eu gwlad oherwydd newid hinsawdd: mae glaw yn anghyson, sy’n arwain at lifogydd neu sychderau; mae torri coed yn achosi erydiad pridd ac yn atal planhigion rhag cael digon o faetholion i dyfu; mae gwyntoedd cryf yn chwythu tai ac adeiladau i lawr; nad oes digon o fwyd neu dŵr glân; ac mae cymunedau yn ymdrechu i fyw bywydau pob dydd.
Dywedodd Mari McNeill, Pennaeth Cymru Cymorth Cristnogol, am sut mae ei helusen hi yn canolbwyntio yng Nghymru ar roi platfform i brofiadau eu partneriaid yn Affrica a’u model o “Rhoi/Gweithredu/Gweddu” fel ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Siaradodd Clare James o Climate Cymru am y prosiectau yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar adeiladu cymunedau gwydn, er enghraifft ynni cynaliadwy a thyfu bwyd i daclo newid hinsawdd. Mae’r Great Big Green Week yn digwydd yr hydref hwn, sy’n ddathliad o weithgareddau cymunedol i daclo newid hinsawdd ac i amddiffyn natur.
Siaradodd Barbara Davies Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru, am sut mae ei helusen hi yn gweithio gyda chymunedau yn Affrica a’r Amason i blannu 25 miliwn goed erbyn 2025 a’i fod eisiau Cymru bod y “genedl dim datgoedwigo” gyntaf. Mae yna symudiad mewn sut rydym ni’n gwario ein harian, yn ôl hi, gan ein bod ni’n prynu mwy o gynhyrchion moesegol a chynaliadwy.
[caption id="attachment_63808" align="alignnone" width="600"]
Brodwaith gan Ophelia Dos Santos[/caption]
Yn sesiynau’r prynhawn, rhedodd Daisy Rees o’r Centre for African Entrepreneurship gylch trafod ar bwnc alltudiaeth a newid hinsawdd, a rhedodd Ophelia Dos Santos, artist gwehyddu a gweithredwraig leol, weithdy ar gynaliadwyedd yn y diwydiant ffasiwn gan ddysgu brodwaith i’r rhai oedd yn cymryd rhan.
Roedd cyfle i weld lluniau buddugol y Gystadleuaeth Ffotograffiaeth 2022 ar y thema “Ailffurfio’r Naratif”, ac arddangosfa ar y thema “Cyfiawnder Hinsawdd” gan Ieuenctid Masnach Deg Bro Morgannwg.
Gwnaethom ni gofyn i bawb sut mae cydymddibyniad bydol yn edrych iddyn nhw. Roedd yr atebion yn cynnwys: cydgenedlaetholdeb, cyfrifoldeb, dod o hyd i dir a chryfder cyffredin, empathi, dewrder, tegwch, cydnabod ein dynoliaeth gyffredin, dad-drefedigaethu elusennau a phartneriaethau.
Cawsom ni cerddoriaeth arbennig gan Blank Face a N’famady Kouyaté a bwyd Nigeriaidd blasus dros ben gan Id’s Place.
[caption id="attachment_63810" align="alignnone" width="600"]
N’famady Kouyaté yn chwarae'r balaffon[/caption]
Array
(
[output_type] => latest
)
Array
(
[post_type] => post
[posts_per_page] => 5
[post_status] => publish
[orderby] => post_date
[order] => DESC
[post__not_in] => Array
(
[0] => 63824
)
)