complianz-gdpr domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /home/hubcymruafrica/public_html/bsstaging.hubcymruafrica.wales/wp-includes/functions.php on line 6170
Mae’r blogbost hwn yn rhan o gyfres ar brosiectau a ariennir gan Grant Grymuso Menywod. Yma, mae Maint Cymru, a dderbyniodd grant o £50,000, yn adlewyrchu ar lwyddiant ei brosiect.
O amgylch y byd ac yn Wganda, mae dosbarthiad anghyfartal o bŵer, adnoddau a chyfrifoldebau wedi arwain at fenywod a merched yn cael eu hallgáu’n rhannol neu’n llawn o feysydd gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol-economaidd cymdeithas.
Cyd-gynlluniodd Maint Cymru brosiect peilot blwyddyn gyda phartner METGE (Mount Elgon Tree Growing Enterprise), ITF (International Tree Foundation) a MADLACC (Masaka District Landcare Chapter Leadership), yn ogystal â’r cymunedau ehangach y maent wedi’u lleoli ynddynt.
Y nod oedd integreiddio rhywedd i mewn i weithgareddau a pholisi newid hinsawdd cysylltiedig ag amaethyddiaeth a galluogi merched cefn gwlad i ddod yn gyfryngau newid pwysig. Yn dilyn yr asesiad rhyw, arweiniodd darlun cliriach o’r heriau a’r cyfleoedd o ran cyfranogiad menywod at lwybr i gefnogi menywod. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant, rhwydweithio a mynediad at adnoddau megis cronfeydd hadau, gwrtaith organig, offer a chychod gwenyn i sefydlu mentrau natur-gyfeillgar.
Mae’n hanfodol cydnabod nad menywod yn unig yw’r genhadaeth o degwch rhwng y rhywiau ac na ddylai fod. Fel y cyfryw, roedd y prosiect yn cynnwys dynion o fewn hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth i greu grŵp o hyrwyddwyr rhywedd menywod a dynion.
Hyfforddwyd unigolion i gynnal hyfforddiant cydraddoldeb rhyw. Hyfforddwyd 44 o ddynion a menywod i ddod yn hyrwyddwyr rhywedd i godi ymwybyddiaeth yn eu cymuned, gan herio rolau rhywedd, rhannu buddion plannu a thyfu coed, triniaeth deg a pharch at bawb beth bynnag fo’u statws.
Er enghraifft, mae dynion wedi dechrau sylweddoli y gall menywod gymryd rhan mewn gweithgareddau fel tyfu coed ac y dylent gael dweud eu dweud yn y ffordd y caiff y tir ei reoli.
Roedd y sgiliau a ddysgwyd ganddynt yn cynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, a chydlynu ag eraill gan eu galluogi i rannu gwybodaeth o fewn eu cymunedau.
Yma, mae Deborah a’i mab Gideon yn rhannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu wrth i Deborah ddod yn hyrwyddwr rhywedd.
Mae menywod yn aml yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar arian ac mae natur llaw-i-genau bywyd yn rhanbarthau’r prosiect yn golygu y gall fod yn anodd talu am ofal iechyd neu feddyginiaeth ac addysg — symiau mwy o arian. Mae cefnogi menywod i gasglu a sefydlu grwpiau cynilo ar y cyd yn grymuso menywod ac yn rhoi mwy o bŵer i’r arian y maent yn ei ennill.
Diolch i’r prosiect, mae 19 o gymdeithasau cynilo wedi derbyn hyfforddiant ar lythrennedd a rheolaeth ariannol, cadw cofnodion, ac adennill benthyciadau.
Mae menywod yn aml yn cael eu hesgeuluso o rolau arwain a swyddi gwneud penderfyniadau sy’n golygu bod eu hanghenion yn cael eu hanwybyddu ac nad yw eu persbectif yn cael ei ystyried. Hyfforddodd y prosiect 40 o fenywod i wella eu sgiliau arwain a chodi hyder i gymryd rolau gwneud penderfyniadau yn y gymuned.
Aethant ymlaen hefyd i hyfforddi 664 o fenywod eraill yn eu cymuned. Datgelodd trafodaethau grwpiau ffocws fod canfyddiadau menywod o arweinyddiaeth yn newid. Ar y dechrau, roedd rhai o’r merched yn amau eu hunain, ond nawr diolch i’r hyfforddiant, dywedon nhw eu bod yn teimlo’n galonogol ac yn gyfforddus yn eu rolau.
Maent bellach yn gweld y gallant gymryd swyddi arwain, gwneud penderfyniadau a siarad allan mewn cynulliadau cyhoeddus. Mae rhai ohonynt yn paratoi i sefyll am swyddi arwain yn yr etholiadau nesaf a phan fydd cyfleoedd yn codi yn eu cymuned.
“Rydym ni’n fenywod wedi gallu cymryd rhan mewn cadw gwenyn oherwydd ein bod ni’n gwybod am fanteision y gweithgaredd hwn. Rydyn ni wedi gallu cynhyrchu mêl a chynhyrchion cadw gwenyn eraill rydyn ni’n eu gwerthu i ennill rhywfaint o arian” eglura Ms Victoria Namalikye o grŵp Gwenynwyr Masele yn Ardal Sironko – un o’r grwpiau sydd wedi elwa o hyfforddiant cadw gwenyn METGE.
Mae’r prosiect hefyd wedi meithrin dysgu a rhannu rhwng staff y prosiect ac aelodau o’r gymuned o ardal Mbale a Masaka drwy ymweliadau cyfnewid rhwng cymheiriaid. Er enghraifft, dysgon nhw sut mae merched sy’n gweithredu gwelyau meithrin yn defnyddio technoleg i olrhain nifer y coed sy’n cael eu plannu.
“Mae cadw cofnodion a chasglu data yn agwedd dda ar y prosiect. Gwelsom fenyw yn defnyddio tabled i fewnbynnu data ar gyfer ffermwyr sydd wedi cymryd coed ac mae’n ysbrydoledig grymuso menywod i ddod yn gyfarwydd â defnyddio technoleg, ”meddai Ms Nankya, ffermwr o Masaka.
Arweiniodd yr ymweliadau hefyd at drafodaethau am rôl menywod yn y gymuned a sut i gefnogi pobl sy’n byw ag anabledd yn well.
“Mae menywod yn gallu cadw gwenyn ac rydyn ni wedi gweld hyn ac felly mae’n rhaid i ni wneud yr un peth. Mae’n rhaid i ni ddiddori ein hunain mewn gwneud gwenyn fel busnes pan awn yn ôl i Masaka”, esboniodd Christine Nankya, aelod o’r gymuned o Masaka.
Array
(
[output_type] => latest
)
Array
(
[post_type] => post
[posts_per_page] => 5
[post_status] => publish
[orderby] => post_date
[order] => DESC
[post__not_in] => Array
(
[0] => 69891
)
)